Adroddiad
Drafft gan y Pwyllgor
Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol
Teitl: Rheoliadau Iechyd Meddwl (Asesu Defnyddwyr Blaenorol o Wasanaethau Iechyd Meddwl Eilaidd) (Cymru) 2011
Gweithdrefn: Cadarnhaol
Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth ynghylch asesiadau iechyd meddwl i ddefnyddwyr blaenorol gwasanaethau iechyd meddwl eilaidd.
Materion technegol: craffu
O dan Reol Sefydlog 21.2, ni nodir unrhyw bwyntiau i gyflwyno
adroddiad arnynt mewn cysylltiad â’r offeryn drafft hwn.
Rhinweddau: craffu
O dan Reol Sefydlog 21.3 (ii) (materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Cynulliad) gwahoddir y Cynulliad i roi sylw arbennig i’r offeryn a ganlyn.
Mae’r Rheoliadau hyn yn rhan o gyfres o reoliadau sy’n cael eu gwneud gan Weinidogion Cymru o dan bwerau sydd wedi’u rhoi iddynt gan ddarpariaethau ym Mesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010 (“y Mesur”) neu o dan ddarpariaethau Deddf Iechyd Meddwl 1983 fel y’i diwygiwyd gan y Mesur ac sydd wedi’u bwriadu i ddatblygu a gwella gwasanaethau iechyd meddwl yng Nghymru.
O dan Ran 3 o’r Mesur, mae cleifion sydd wedi’u rhyddhau o wasanaethau iechyd meddwl eilaidd ond sydd wedyn yn credu bod eu hiechyd meddwl yn dirywio nes cyrraedd pwynt lle mae angen ymyrraeth arbenigol eto yn cael cyfeirio’u hunain o fewn cyfnod o dair blynedd ar ôl cael eu rhyddhau (“y cyfnod rhyddhau”) yn ôl at y gwasanaethau eilaidd.
Y rhai sy’n gymwys yw personau dros 18 oed sydd wedi cael gwasanaethau eilaidd o’r blaen. Er hynny, bydd unigolion sydd wedi cael gwasanaethau eilaidd ac sydd wedi’u rhyddhau ohonyn nhw tra oedden nhw o dan 18 oed hefyd yn gymwys os ydyn nhw’n cyrraedd eu 18 oed yn ystod y cyfnod rhyddhau.
Mae’r darpariaethau yn rhan 3 o’r Mesur yn cyflwyno cyfundrefn sy’n unigryw i Gymru.
O dan y weithdrefn gadarnhaol y mae’r Rheoliadau hyn yn cael eu gwneud ac felly fe gân nhw eu trafod gan y Cynulliad mewn Cyfarfod Llawn.
Cynghorwyr Cyfreithiol
Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol
Medi 2011